Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWLADGARWCH


I
ONID tydi sydd yn glaf o gariad
At draddodiadau dy ffin?
Onid yw breuddwyd a hewyd dy henwlad
Fyth yn ddigwmwl yng nglesni dy lygad
A'i hawliau'n fflam ar dy fin?

Ti yw lladmerydd ei swyn a'i hunaniaeth
Yn wyneb y llydan fyd;
Dy gleddyf a werchyd ei hannibyniaeth;
A thry dy freuddwydion oll yn arwriaeth
Wrth ei hallorau o hyd.

II
Sefais yn oedfa ddilafar y delwau
Un nawnddydd ar lawnt y dref,
A gelwais i gof rai grwydrodd y ffiniau,
A thithau yn farwor ar eu gwefusau
Pan godent eu gwlatgar lef.

A chlywais wrth gerdded dy fyd hynafol
Lawer hen faled a chân
Anesid dan angerdd dy chwýth berorol,
Sgrifennwyd ar alwad y nwyd anfarwol
Lefarai o'th golofn dân.