Dacw yr ewyn yn wyn ar y glannau,
Wynned a dwylaw Branwen ferch Llyr;
Mi wn mai brwydr y dyfnfor a'r tonnau
A ddodes i'r ewyn ei dlysni pur;
Hardded ei ddelw ar fin Iwerydd,
Lili'r ystorm ar lasdon aflonydd,
Caiff heno chwerthin yn hedd y glennydd,
Ymhell o gadfaes ystorm a chur.
Gwelais y dymestl brynhawnddydd tywyll,
A'r awel wylai fel lleian brudd;
Rhaeadrai'r daran tros gwmwl candryll,
Fel cread o ing yn ffoi yn rhydd.
Wedi'r frwydyr, dymestl y nawnddydd,
Gwelais yr haul ar lawnt yr wybrennydd,
A dydd yn llifo o'i aur adenydd;
Felysed eto lesni y dydd!
Ba beth ydych chwi, wyrddion fforestydd?
Ba beth ydwyt ti, olau y dydd?
Onid meibion yr anwel ornestydd,
Goresgynwyr ieuainc daear rydd?
Nid yw llawenydd pennaf bro anian,
O'r wendlos lili a'r wefus arian
Hyd yr haul freuddwydia ddyddiau allan,
Ond atgo brwydr yr athrist gyhudd, —
Bywyd o swyn wedi ymdrech brudd.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/76
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon