Dithau, Riannon, ferch y tywysog,
Gwisg dy wenfron ag eur-ros y glyn
Golch dariannau y gwŷr a fu arfog;
Sych eu cleddyfau â'r pali gwyn;
Nac wyla farw feibion Llywelyn;
Cofia ddeufwy anobaith y gelyn;
Diolch am ryddid, a chân o'th delyn
Gerdd y concwerwyr gwrol di-gryn.
Llym ydoedd cleddyf y meibion hynny;
Cryf oedd eu braich a gwrol eu bron;
Hyd hwyr daliasant y faner i fyny,
Baner concwerwyr y frwydyr hon
Awchus y'u gwyliais o tan eu harfau,
A bro yn atsain trwst eu tariannau,
A thorf y gelyn yn ffoi o'r wlad;
Dos, Riannon, mwy at dy delyn,
Cân dy glodydd i feibion Llywelyn,
Meibion a biau lawryf y gad.
Cilio wnaeth niwloedd yr ormes a'r dulid;
Glas ydyw wybren yr henwlad dlos;
Cân ganiadau byth—newydd ein rhyddid,
Ferch sydd a'th rudd dan ddistyll y rhos;
Melys fo'r ddawns ym mhlas y pendefig;
Llonned heddwch y werin grynedig;
Ond cofiwn rywrai sydd unig, unig,
Dan wynllif gwenlloer glwyfus y nos.
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/77
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon