Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac o lluniaist ti ddeddfau'r môr a'r tir
A hynt anneall pob byd,
Teg weithian yng ngwyddfod fy rheswm clir
Fai prawf o'th honiadau drud.

Cans p'odd yr addolwn ni'r Duwdod sydd
Yn gwrthod rhoi prawf o'i fri,
Gan drigo mewn niwl a eilw yn ddydd
Tu hwnt i fy neall a mi?

Gan hynny rho brawf i'r ddaear i gyd
Modd delych uwchlaw pob gwarth,
Rhag gweld ohonom mai damwain yw'r byd
A bywyd yn ddim ond tarth.

Trwy bobman daw islef addolgar fyw:
Di, demtiwr, taw, a bydd fud,
Cans nid â'th ddeall y gweli di Dduw
Ar binaclau teml y byd.

Dos hwnt â'th reswm materol amhur,
Na themtia mo'r Ysbryd byw;
Cans enaid di-ddichell, a chalon bur
Yn unig a ddeall Dduw.

IV Teml Adfyd
Mi neithiwr a welwn bererin llesg
Tan bwysau adfyd ei oes;
Ei lafar oedd unfath ag islais yr hesg,
A'i war yn grwm tan y groes.