Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y myrddiwn blodau wylofus prudd
Sua dan awel yr hwyr a'r wawr
Alaw alltud rhyw fore mawr
Wridan dyner atgof ar eu grudd,
Clywch yng ngherdd yr adar yn y coed
Fiwsig rhyw fyd pêr — lawen pell,—
Faledau rhyw dymhorau gwell
Na theimlodd daear eu swyn erioed.

Rhyw siffrwd athrist beunydd a gawn
Yn crwydro'n drist ym machlud haul,
Tros lynnau prudd a chlwyfus ddail,
Fel cerddi adar ar drymllyd nawn;
Gwêl acw'r mynyddoedd mawr mor brudd
Yn wylo am adenydd aur
I ffoi am y gorwelion claer
A phorthladdoedd yr anfarwol ddydd.

Pa beth yw'r ddaear, y lloer, a'r sêr,
Ond llongau'n ymdaith o'r cyhudd,
Yn llawn meddyliau alltud prudd
Am fro y thus, a'r myrr, a'r heuliau têr.
Moriant yng ngolau'r ystorm o hyd,
Gwelaf eu hwyliau'n yr wybr laith,
Wrth ymdaith tros y moroedd maith
At loywach nen a thanbeitiach byd.