Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II
Trof eto o gylchoedd natur brudd
I fyd ofnadwy gofid dyn
Lle mae ystormydd ar ddi — hun
O gynteddau'r wawr hyd derfyn dydd
Mae'r heuliau'n alltud uwch niwlog len,
A dyn yn grwydryn blin di hoen;
Prif ffaith ei fywyd ydyw Poen,
A'i freuddwyd — "Ceisio gloywach nen".

Wyla rhywrai fyth am riain dlos
A'i gwallt yn ysgwyd yn y gwynt,
A myrdd atgofion o'r oriau gynt
Yn dyfod a mynd ar lanw'r nos;
Clywaf fyth o'r coed eu hunig gri,
Fel aethlef Islwyn ddieithr brudd
Pan aeth ei fun am Loywach Dydd,
Yntau'n wylo wrth ei dilyn hi.

Och! blant y mynydd, a phlant y dref,
Mae lliwiau cysgod haul yn eich trem;
Gwewyr ac afar tymestl lem
Sy'n pylu llygad eich oes ddi — nef;
Barrau haearn rhyw ormeswr sydd
Yn bwyta twf eich adenydd aur,
Gan gadw y gorwelion claer
Yn freuddwyd ing i'ch calon brudd.