O freichiau stormydd angau ar y ddaear
Ewch, seintiau annwyl calon dyner,
I'r wybren glir uwch stormydd amser;
Cewch lanw'ch hwyliau gyda'r gwyntoedd cerddgar;
Daw'r wawr i'ch derbyn o'ch blinderau
Fel cawod euraid o rosynnau
Yn ernes o'r gorwelion prydferth hawddgar.
Mae'n rhaid i bopeth farw, meddai bywyd;
Mae'n rhaid i bopeth fyw, medd angau;
Efe rydd adain i greadau
Gyfeirio adref o'u crwydriadau alltud;
Byth ni bydd farw dyn na daear,
Car ddau gydfywn dragwyddol hawddgar
Dan nennau ieuainc glasliwr anfarwolfyd.
Gwêl wirioneddau trist yn dod o'u beddau—.
Oesau'n codi ar amnaid gwawrddydd,—
A Christ ar lanw yr wybrennydd
Mor wyn â lili olchir gan ewynnau;
A than ei drem Mae'r atgyfodiad
Yn rhoi adenydd i'r holl gread
I hedfan i'r anfarwol ffurfafennau