II Teml yr Adfyd
Cerddais heolydd prydwelw gan dlodi
A nwyd ddolefus yr hwyr yn y gwynt;
Gwelwn y deilios yn marw yn ddifri',
A chlywwn hiraeth dolurus dderi,
Fel enaid ymhoen am yr amser gynt.
Coflwn am ysbryd yr anwel rhosynnog,
A melys gyfaredd ei gyfrin fyd,
Wylais o weled agendor dymhestlog
Rhyngddo â goror y bywyd newynog
Sy beunydd yn ymladd â thynged ddrud.
A mi'n ymdeithio, i'm cwrdd daeth hynafgwr
Ac ewyn y storm yn wyn yn ei wallt;
I'w lygaid llwydion 'roedd niwloedd a chynnwr,
I'w agwedd fregus 'roedd trernyn rhyfelwr
Brofasai waethaf rhyw drinoedd hallt;
A dywawd, a'i wefus lasliw yn crynu:
"Ba les iti adrodd y pader sant?
Ba les y defosiwn mud, ar ymgrymu?
Ba les i enaid sy ar newynu
Ddatganu am Nefoedd â gwelw fant?
"Ysgar dy hunan o lwybrau'r paderi,
A chredo ledrithiol y santaidd oed,
Cans nid oes a wnelo yr Arglwydd â thlodi,
Ac ni bydd ddiben na therfyn i'th gyni
Hyd oni chei fedd ryw ddydd dan y coed."
Tudalen:Cerddi'r Bugail.djvu/98
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon