Tudalen:Cerddi'r Bwthyn.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FFOS Y CLAWDD

PWY yw hon sydd ymhlyg fan yma,
A'i hwyneb nychlyd fel marmor gwyn?
A weli di'r crinddail yn disgyn arni,
A'i gwallt fel anialwch dan lwydrew'r glyn?

A weli di'r haint lle bu gorne'r gwyddfid,
A staen y gwin lle bu gwrid y rhos?
Yn anhrefn ei gwallt cei lun y dibristod
A'i gyrrodd yn ieuanc i noddfa'r ffos.

Yn ieuanc? Pwy a banylodd y gruddiau?
Ba fysedd oerion a wasgodd yr ên ?
Distaw, fy mrawd, rhag it darfu'r breuddwyd,—
Nid y blynyddoedd a'i gwnaeth yn hen.

Edrych arni, ond paid â'i deffro,—
Tirionach ei chwsg na'th drugaredd di ;
Gad i'r druanes anghofio ennyd
Mai Magdalen yw ei henw hi.

Os oer yw'r chwa ar y gruddiau llwydion,
Rhy fuan y derfydd y trymgwsg gwin.
Na, paid a'i deffro. Bydd pang ei sobrwydd
Yn fil creulonach nag oerni'r hin.

A weli di'r wên sy'n goleuo'r wyneb,—
Y wên na ddiffydd dan farrug nos?
Ai'r perl a gollwyd sydd yma'n lleueru,
Yma'n lleueru yn llaid y ffos?