Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi Edern a Cherddi Eraill.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r adar yn mro hudol
dirion deg llwyn drain a dôl,
a phob llais min dichlais dydd
yn ymuno'n y manwydd.
O'r cangau clywir cyngerdd
dyri a chân, chwiban a cherdd,
a diasbad caniad cog
yn y mynydd mewn mawnog.

Mae gloynod ar y blodau, adar
yn hudol eu lleisiau,
a llewych ar y lliwiau;
a all neb ond llawenhau?

Aberystwyth, 1899.