Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi Edern a Cherddi Eraill.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Clawdd yn Lleyn uwch ben y môr,
a'r porphor bychan arno;
hwn mor bêr, pob chwa a dýn
y gwenyn tuag ato.

O rosys gwynion, yr hen gymdeithion,
o'r llanciau tirion, mae tri wedi mynd,
heb neb a'i chwedlau am hen hen ddyddiau,
ond chwi a mineu, am frodyr gynt.

Hydref, 51