Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cerddi Edern a Cherddi Eraill.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD I LEYN

Draw acw ar bob drycin,
gaeafaidd neu hafaidd hin,
boed niwlog, boed yn heulwen,
boed lliw dydd, boed lleuad wen,
boed llyfn ddŵr, boed arw'r don,
gwyliaf tra curo'r galon,
Can's dyna'r fan mae arfor
Lleyn yn ymestyn i'r môr.

Penparce, Chwef. 1900.