Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os wyt ti f'anwylyd, liw ewyn y dôn,
Dan gysgod y llwyn yma'n dawel,
A elli di ganu mor ddedwydd dy fron,
Pan ddaw swn ystorm yn yr awel?
Fe gyfyd gelynion, mae difrod ar daith,
Gwel ormes a brad yn dynesu,
Clyw accen y bryniau'n anghofio'r hen iaith,
A'r awen heb neb i'w mynwesu.

Estron,-Mae awel y bryniau yn gwybod y gân
"Eu Ner, eu Ner a folant,".
Eu tiroedd a gollant, ond Gwalia lân,
Er hyny yr heniaith a gadwant.

Copyright Reserved.....EOS BRADWEN

HEN WLAD FY NHADAU.

Ton—Hen Wlad fy Nhadau

Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl gan i,
Gwlad beirdd a cherddorion enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Dros ryddid collasant eu gwaed.

BYRDWN


Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn i'm golwg sydd hardd,
Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd i fi.

Gwlad, gwlad, & c.

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau,