Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae hiraeth i'm trymhau
Am weled glanau gleinion,
Hyfryd ddolydd, maesydd maith
Sy'n lanwaith heb elynion,
Ac am greigiau, muriau mawr,
Clog wynfawr, erfawr Arfon,

Os da gan glaf ar fin ei fedd
Gael adwedd o'i glefydion
Os da gan grwydryn yn y nos,
Cael llety diddos boddlon,
Gwell gan i gael lloches glyd
O dwrf y byd yn Arfon.

Gwyn fy myd pe cawn yn awr
Adenydd y wawr dirion;
Hedeg wnawn dros for a thir,
Yn gywir ac yn union,
A disgynwn yn ddiau
Ar erfai fryniau Arfon.,

Duw a'm dycco cyn fy medd
I fyw mewn hedd a digon,
A chael treulio‘m gweddill oes
Heb loesau anfelusion;
Hyn yw'm harch, a Duw yn dad,
Yn mynwes wirfad Arfon.

A phan y delo diwedd oes,
A duloes angau creulon,
A d'od o'r dydd i'm rhoddi'n fud
Yn nistaw fyd marwolion,
Boed i'm corph gael bedd yn nghlai
A daear erfai Arfon.
IEUAN GLAN GEIRIONYDD.