Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MAE PAWB A PHOBPETH YN MYN'D YN HEN

A fuost ti'n meddwl y cyfaill mwyn,
Fod amser yn llithro dan dy drwyn;
O ddydd i ddydd, ac o awr i awr,
Wrth deithio, sefyll, ac eistedd i lawr;
Wrth fwyta, ac yfed, a rafio'n ffri,
Yn nghwsg, ac yn effro, ffwrdd a ni,
Ac os edrychwn drwy ddrws ei drên,
Cawn bawb a phobpeth yn myn'd yn hen.

Tra casgla'r cybydd, tra gwaria'r hael,
Tra llid a mwynder, colled a mael;
Tra cara'r llanciau lodesi glân,
Tra plethaf finau englyn a chan,
Tra'r bonedd yn byw ar winoedd a bîr,
A'r tlawd yn griddfan yn ngweithdy'r sir,
Pasio mae'r byd drwy alar a gwên,
A phawb a phobpeth yn myn'd yn hen.

Mae'r hen Eisteddfodau difyr gynt,
A'r delyn a'r gerdd, yn dilyn y gwynt,
Chwar'yddion Llundain uwch ben y llu,
Sy'n wallt eu dawn, a'r beirdd naill du!
Yr hen ddatgeiniaid yn dianc o'r byd,
Awdl y Gadair, a'r cwbl i gyd,
Mae'r iaith Gymraeg a'i llafar a'i llen,
A phawb a phobpeth yn mynd yn hen.

Y Gwyliau sy'n dod, a'i gelyn glas,
A'i gyflaith, a'i bwding, a'i wyddau bras;
Daw'r plant i enyn chwerthiniad iach,
I'r aelwyd gynęs yn Nghymru bach;
Ac er na welsoch chwi cystal erioed,
Mae Ann a Timothy'n cario'u hoed,
O wyl i wyl, ac o wên i wên,
Maent hwythau hefyd yn myn'd yn hen.