Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hoff gan fab yw meddu serch,
Y ferch mae am briodi;
Hoff gan inau yn mhob man,
Am Morfydd Aberdyfi,
Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel rwyf fi'n dy garu di,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.

Tra bo llanw, trai, a lli,
Yn fy nghalon caraf di:
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.
Os y byddi'n wraig i mi,
Ni flinaf fi'n dy hoffi;
Beunydd gwnawn ymlawenhau,
Fel Clychau Aberdyfi.

Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel rwyf fi'n dy garu di,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.

ANWYLAF WLAD FY NGHALON

Anwylaf wlad fy nghalon
Am byth y caraf di,
Mae miwsig dy awelon,
Yn anwyl iawn gan i;
Hoff genyf yw dy fryniau,
Hardd yw pob rhan o'th dir,
Ond harddach yw, anwylaf wlad,
Dy gariad at y gwir.

Cydgan—
Anwylaf wlad fy nghalon,
O hyd fydd Cymru wen,
Dylifed holl fendithion
Y Nefoedd ar ei phen.