Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Gad imi weld fy anwyl fab
 A'i wasgu at fy mron;
Fy nhrysor penaf ydyw ef
 Ar wyneb daear gron."

Ar frys yr aeth i'w 'stafell ef,
Ca'dd yno ddychryn mawr;
'Roedd cryd er blentyn wedi ei droi,
A gwaed yn rhuddo'r llawr!
"Fy mhlentyn tyner," ebai ef,
"Fy mhlentyn anwyl i!
Rhyw lofrudd â'i ysgeler law
 Derfynodd d'einioes di!"
A Gelert o ryw dywyll le
A gododd ar ei draed;
A'i lygaid yn melltenu tân,
A’i safn yn goch gan waed:
"Ai ti a wnaeth y weithred hon?
O elyn tost i mi!"
A sydyn gyda'i gleddyf llym
Trywanodd ef ei gi."

A! dyma lais o dan y cryd,
Fel miwsig angel syw;
Ymgrymu wna y fam a'r tad,
Mae'r plentyn eto'n fyw!
Wrth droi y dillad gwelant ef,
Yn gwenu yn ei hun;
Ac wrth ei ben yn gelain gorph,
Mae blaidd o aflan lun.
Llywelyn dd'wedai yn ei loes,
"O! Gelert, ffyddlon gi,
Achubaist di ei fywyd ef,
A lleddais inau di!
Cei faen o farmor ar dy fedd,
Anrhydedd fydd dy ran"
A'r ci wrth lyfu llaw y llyw,
Fu farw yn y fan.
TALHAIARN.