Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llawer math ar gân a fyddai gan y rhei'ny,
Y Symblen Ben Bys, a'r hen Hob y Deri,
Plygiad y Bedol Bach, a Marged fwyn ach Ifan,
Ar hyd y Nos, a'r hen Forfa Rhuddlan.

O faint o gyfnewid, &c.

Nid oedd yr oes hono fawr o son am drethi,
Na mesur y tiroedd, na chodi y rhenti;
Ond undeb a chariad oedd yn mhob cym'dogaeth,
A gadael i Satan gyflogi gwyr y gyfraith.

O faint o gyfnewid, &c.

Ar brydnawn gwyliau myned byddai'r llanciau,
I ganol llanerch dêg i gadw chwareufa gampau;
Rhedeg a neidio y byddai'r rhai gwrol,
'Maflyd codwm clos, a thaflu maen a throsol.

O faint o gyfnewid, &c.

Nid oedd yr oes hono ond ' chydig o falchder,
Ni welwyd yn Llundain nemawr Haberdasher;
A phawb hyd wlad Cymru'n byw'n ddigon llawen,
A’u dillad i gyd o frethyn ac o wlanen.

O faint o gyfnewid, &c.

'Doedd gan modryb Alis, na chwaith modryb Modlen,
Ond bacsen am y goes, a charai i g’lymu r glocsen,
Pais o ddu'r ddafad, a chrys o wlanen deueu,
Het o frethyn tew, a chap o lian cartre'.

O faint o gyfnewid, &c.

Nid oedd gan fewyrth Shôn, ap Meurig ap Morgan
Ond cryspais o wlanen, a chlos o frethyn herpan,
Ffon o dderwen gref a fyddai yn ei ddwylaw,
Gwregys am ei ganol i rodio ar ol ciniaw,

O faint o gyfnewid, &c,