Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y BYD YN POWLIO

A fuoch chwi'n meddwl unrhyw bryd,
Fod pêl'r hen fyd yma'n powlio?
'Rwy'n siwr ei bod hi'n abl gwych,
Prun bynag fuch chwi a'i peidio;
Chwi wyddoch—ddeuddeng mlwydd yn ol,
A phymtheg, deunaw, ugain,
Mae'r holl Gerddoriaeth godai'r gwlith
Oedd "DARLITH TANYMARIAN."

'Roedd hono'n Ddarlith yn ei hoes,
Gadd lawer cheers twymyn,
Ond treiglo ddarfu'r belen fawr,
A hithau i lawr i'w chanlyn;
Bu oes Darlithiau'n fyw er hyn,
Nes daeth Caledfryn gyfion,
I fwrw'r damper right and left
Ar grefft "pregethu dynion."

'Rwy'n cofio agos megys doe,
Gerddorion Llechwedd isa
Yn cadw'r Concert cynta 'rioed
Yng nghanol coed Rhiwdafna,
Nid diffyg grym nac 'wllys sy
Na buasent felly eto,
Ond dyma'r rheswm—fod y byd
O hyd, o hyd, yn powlio.

Bu Enthym Dirwest am ryw hyd
Y "Berl y byd" Cerddorol,
Pan oedd y bêl yn powlio i lawr
Yn un "Clwb mawr Dirwestol,"
Daeth Mills Lanidloes yn ddioed,
Ac Ambrose Lloyd rol hyny,
I siglo Cymru—a chodi chwaeth
Gerddoriaeth gwerth ei chanu.