Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan wel ryw destyn at ei chwaeth
Yn rhyddiaeth neu'n farddonol,
Mae'n ysgrifenu llafnau maith,
Ryw chwech neu saith gwahanol;
Fe'u henfyn oll i dreio'u chance,
Fel chwareu Lottri Sidrwy;
A dwed pan gollant—mewn drwg lam
Mi ges i gam ofnadwy.

Na synwch ddim fod ganddo haid
Yn nwylaw'r Beirniaid heno;
'Rwy'n ddigon siwr—mae gan i dyst,
Sef dull ei glust oʻn gwrando;
Mae'n disgwyl gwobr am bob pwnc
All round—yn grwn fel modrwy;
Ac am bob siomiant—dwed heb nam
Mi ges i gam ofnadwy.

Mi ganodd llynedd i'r Chignon[1]
'R englynion gore oʻr haner;
A fo pia'r englyn gore yn hon
I'r Cogwrn Helter Scelter;
Ac os nad fo gaiff Waggon Caer,
A'r gân i'r afon Gonwy;
Gall ddatgan eto mewn drwg lam,
Mi ges i gam ofnadwy

Cai Dafydd Parri 'i farn ei hun
Y fo ydi'r dyn o'r cwbwl;
Fe 'nillai'r gwobrau'n nerth ei ddawn
Ar 'chydig iawn o drwbwl;
Ond rhywun arall—gadd y dydd
A Deio'n brudd wrth dramwy
Oʻr ' Steddfod adre——yn dweyd wrth Sam
Mi ges i gam ofnadwy.

  1. * Y penill hwn i'w gyfaddasu gan yr adroddwr fel bo'r amgylchiadau yn galw.