Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MOLAWD Y DELYN.

Tua chwech ugain mlynedd yn ol, o eleni (1887), yr oedd mam Dafydd Sion Pirs yn cadw y Dafarn a elwid y DELYN (Harp), Llanfairtalhaiarn. Yr oedd yn fardd pert, ac y mae amryw oʻi Gerddi wedi eu Cyhoeddi, ond y ddoniolaf a'r oreu o'r cwbl yw "Molawd y Delyn," o'r hon y mae y pennillion canlynol wedi eu dyfynu, fel y goreuon, gan TALHAIARN.

Brenhines pob miwsig, hardd adail urddedig,
Wych haelfraint uchelfrig goethedig ei thop:
Am adlais mwyn odlau, pur lesol pêr leisiau,
Gan hon mae'r sain oreu sy'n Europ.

Clochdy clau wychder, c'lomendy clau mwynder,
Siop dannau siâp dyner, teg wiwber ei gwaith;
Pren oslef barneisliw, ty golau teg eiliw,
Tlws adail glwys ydyw glòs odwaith.

Merch organ arch eurgaingc, ty closgoed teg lwysgaingc,
Gorseddfaingc, crededdfaingc, troell wirgaingc tra llefni
Mawl lestr melusdrwst, sy'n dwndro sydyndrwst,
Cywirdrwst, duwioldrwst, di waeldrefn.

Gwagen pob gwiwgerdd, i lusgo melusgerdd,
Mae'n agor mwyneiddgerdd, wych haelgerdd a choeth;
Esgoldy'r ysgowldant, a chadair y chwiwdant,
Cegindant, Parlwrdant, perl eurdoeth.

Ty masarn, tô miwsig, glau adail glywedig,
Cynwysdy cân ystig, urddedig hardd iawn;
Hwyluslef meluslais cain oslef cynneslais,
Treínuslais iawn adlais hynodlawn.

Apollo ( medd llyfra ') a'i lluniodd o'r llona,
Mercurius a'i carai, da raddau, di rus;
Amphion a'i pynciai, ac Orion ( medd geiriau )
Yn ffyddlon eu moesau a'r Muses.