Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er cael cyfeillion rif y sêr
A mwynder yn mhob man,
Hiraethu wnaf am fyn'd yn ol
I'm genedigol lan;
Cael eiste'n ymyl aelwyd hardd
Fy Mam, yn Fardd o fri,
Yn nghwmni bechgyn bochgoch iach,
Mil mwynach yw i mi:

Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di.

Nid oes i mi ond gofid dwys
Wrth fyw dan bwys y byd;
Rhyw oerfel drwy fy monwes draidd
A gwelwaidd yw fy mhryd:
Er holl bleserau'r ddaear hon
Ni fydd fy mron yn iach,
Yn unman arall dan y ne',
Ond yn ein pentre bach;

Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i;
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di,

Pe cawn adenydd c'lomen deg
Chwim hedeg yno wnawn,
Dros fryn a dyffryn, dôl a gwaen,
Ymlaen, ymlaen yr awn,
Nes imi fynd i'r dyffryn glwys
Heb orphwys ar fy hynt;
Ond hedeg wnawn i'r hyfryd fan
Yn fuan fel y gwynt:

Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i:
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di,
TALHAIARN