Gwirwyd y dudalen hon
Cerddi Doe.
Merch y Mynydd.
I.
I HELA aeth mab y Brython un dydd,
A chrwydrodd ymhell o dŷ ei dad;
Ar ôl ei gŵn ar drywydd yr hydd
Cyrchodd y wyllt anghyfannedd wlad.
A'r haul yn uchder y nef, e ddaeth
I lannerch werdd yng nghanol y coed,
A sefyll yno dan lwyn a wnaeth—
Ni welsai fangre brydferthach erioed.
Teg oedd y dail a'r blodau i gyd,
Glân oedd y mwsogl aur dan droed,
Ond tegach y ferch a safai'n fud
Dan fedwen arian yng nghwr y coed.
Du oedd ei gwallt fel cwmwl y nos
Pan na bo seren ar faes y nef,
A thonnog megis merddwr y rhos
Pan grycho awel ei wyneb ef.
Gloywddu a dwfn oedd ei llygaid hi,
Llygaid welai freuddwydion syn;
Ei thâl cyn wynned ag ewyn lli,
A'i mynwes megis yr eira gwyn.