Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A'r Brython eto'n ei gwylio'n fud,
Canu yn beraidd a wnaeth y ferch,
A theimlodd yntau ryfeddol hud
Y gân, a'i galon yn glaf o'i serch.

Mynnai y Brython ei dal a'i dwyn.
Adref yn wraig iddo ef ei hun;
Neidiodd yn hoyw o gysgod ei lwyn—
Hoywach i'r coed neidiodd y fun.

Chwiliodd yntau amdani yn hir,
A gwelodd hi'n dringo'r clogwyn fry;
Clywodd ei chân yn groyw ac yn glir
Fel y diflannai mewn ogo ddu.

Ac âi y Brython beunydd ei hun
I'r llannerch werdd dan glogwyn y rhos
I ddisgwyl eto weled y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.

Clywodd ei chanu megis o'r blaen,
Mynych y gwelodd hithau ei hun
Fry yn ei wylio yng nghysgod maen,
Yna, fel breuddwyd, diflannai'r fun.

Safodd ar odre'r clogwyn mawr
Un dydd, a galw pan welai hi:
"Riain y mynydd ! dyred i lawr,
Tegach na merched y glyn wyt ti!"