Gwirwyd y dudalen hon
"Hardd yw dy rodiad ar draws y bryn,
Cryfach wyt ti na meibion y graig;
"Tegach dithau na merched y glyn,
Riain y mynydd, bydd imi'n wraig."
"Priod y pennaeth a fyddaf i,
Pen ar rianedd y llys i gyd,
Ond os ag arf y'm cyffyrddi di,
Mwy ni'm gweli er chwilio'r byd."
A dug y Brython yn llon ei wedd
Ferch y Mynydd i dŷ ei dad,
Lle bu yn arglwyddes llawer gwledd
A'i chân yn swyno gwŷr y gad.
II.
Un dydd i hela'r hydd ar y rhos
Aeth y Brythoniaid o lys y glyn,
Y pennaeth ar farch cyn ddued a'r nos,
A'i wraig i'w ganlyn ar balffrai gwyn.
Cododd yr hydd a chanwyd y cyrn,
A'r Arglwydd, tynnu ei fwa a wnaeth,
Oni chyffyrddodd wrth droi yn chwyrn
Law ei arglwyddes â blaen y saeth.