Gwirwyd y dudalen hon
CWNINGOD
DWY gwningen fechan
Yn eistedd ger y llwyn—
Un yn gwrando'n hapus
Ar gân yr adar mwyn,
A'r llall a'i phawen felfed
Yn rhwbio blaen ei thrwyn.
Dwy gwningen fechan
Yn ffoi drwy'r borfa las,
Eu calon yn eu gyddfau,
A Mic, y milgi cas,
Yn rhedeg ar eu holau
Ar chwiban Deio'r gwas.
Un gwningen fechan
Dan goeden yn y llwyn,
Yn crio am ei chyfaill
Yng ngolau'r lleuad fwyn,
Gan godi'i phawen felfed
A rhwbio blaen ei thrwyn.