Gwirwyd y dudalen hon
Y GATH DDU
MAE'N gorwedd ar yr aelwyd
Yn swrth ond hardd ei llun,
Heb un ysmotyn arni,
Fel darn o'r nos ei hun;
Ac yno mae'n breuddwydio
Ei bod ar hirddydd haf
Wrth fôr o hufen melyn
Lle'r heigia pysgod braf.
Mae'n grwnian ac yn grwnian,
Yn isel wrth y tân,
A'r tegell yntau'n mynnu
Ymuno yn y gân;
Mae'r crochan ar y pentan,
Bydd hwn yn ffrwtian toc;
A mwmian wrtho'i hunan
Mae pendil yr hen gloc.
Daw Robin Goch i 'sbio
Drwy'r ffenestr arni'n hy,
A'r llygod swil i chwarae
Yng nghonglau pella'r tŷ:
Heb ofn na dychryn arnynt;
Ond gwae i't truan ffôl,
Os cwyd yr heliwr cadarn
I ymlid ar eu hôl.