Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fe'i gwelais un diwrnod
Yn mynd ar ysgafn droed;
Ymlusgai yn llechwraidd,
A lithrai rhwng y coed;
Ymlusgo—oedi ennyd—
Ac yna sydyn lam,
Tra fflachiai'r cleddau arian,
A'r llygaid aur yn fflam.

Ond heddiw, nid rhaid ofni,
Mae'n gorwedd wrth y tân,
A heddwch fel yr afon,
Yn llenwi'r gegin lân
Mae'r Robin ar y ffenestr,
A'r llygod yn cael sbri,
A'r llygaid aur fel gemau
Mewn blychau eboni.