Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MORYS Y GWYNT

MORYS y Gwynt â'i ddwyfoch goch,
Yn neidio a dawnsio a gweiddi'n groch;
Ac Ifan y Glaw yn eistedd yn brudd,
A'r dagrau yn llifo i lawr ei rudd.

Dagrau Ifan yn disgyn i lawr
Ar flodau bychain a phrennau mawr;
A'r Haf a'i lestr aur yn ei law
Yn casglu dagrau Ifan y Glaw.

Morys y Gwynt ar ei geffyl gwyn
Yn gyrru ar garlam i lawr y glyn,
Ei utgorn arian a'i delyn fwyn,
A'i chwerthin mawr yng nghoed y llwyn.

"Morys y Gwynt, i ble'r wyt ti'n mynd?"
"I sychu dagrau Ifan fy ffrind,
I'w dwyn ar fy march ymhell dros y bryn,
I'w wely plu yn y cwmwl gwyn."

"I'w neuadd wych yn ei uchel blas,
A'i muriau o berl a saffir glas;
Lle daw'r haul i wau a'i euraid law
Ei fwa dros wely Ifan y Glaw."