Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

YN y Cymru Coch lawer blwyddyn yn ôl y bwriais fy mhrentisiaeth, a mawr yw fy niolch i Olygydd mwyn y misolyn annwyl hwnnw am roddi derbyniad mor garedig i'm hymdrechion cynnar, O edrych yn ôl dros y blynyddoedd gallaf dystio amdano, fel y gwna llaweroedd, "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Ysgrifennais lawer i wahanol gylchgronau a phapurau lleol y dyddiau hynny; ac yna am ryw reswm anesboniadwy disgynnodd mudandod arnaf. Ymhyfrydwn fel cynt mewn barddoniaeth, ond pallodd pob cyffro ac awydd i greu cân fy hun. Rhai blynyddoedd wedi'r Rhyfel Mawr, yn sydyn ac yr un mor anesboniadwy, wele'r ysfa drachefn yn fy meddiannu, a chynnyrch y dwymyn hon a geir yn bennaf yn y Gyfrol. Rhwng 1930—1936 yr ysgrifennwyd y rhan fwyaf o gynnwys y Gyfrol, ac ni cheir ynddi ond rhyw dair neu bedair o'm caneuon cynnar. Ni bûm erioed yn chwannog i gystadlu. Nid rhinwedd ynof mo hyn yn ogymaint â diffyg o'r ddawn a roddwyd mor helaeth i rai o'm brodyr i ganu'n rhwydd a pharod ar destunau gosodedig. Yr ychydig droeon y mentrais i'r maes cystadlu bu'r beirniaid yn dirion iawn wrthyf, ond ni roddais i mewn yn y gyfrol ond un delyneg fuddugol.

Ymddangosodd y rhan fwyaf o'r "Cerddi a'r Baledi" o droi dro yn Y Llenor, Y Ford Gron a'r Western