Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A'r tonnau a ruodd, a'r castell a gwympodd,
A'r llanw a ruthrodd yn gynt,
Gan ddwrdio a gwylltio
A'r wylan yn crio,
Bron syrthio mor simsan ei hynt—
Ond chwerthin, a chwerthin, wnaeth Guto benfelyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.