Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Chwaraewn," meddai'r bachgen, a rhai o'm
...ffrindiau hoff
A fyddai'n dyner beunydd wrth Huw, y bachgen cloft;
A gwelais yn mynd heibio ryw ŵr mewn mantell glaer
Na welais i mo'i thebyg crioed ar gefn y Maer.
Fe redodd fy nghyfeillion ar unwaith ar ei ôl,
A cheisiais innau ddilyn, a Siôn, yr hogyn ffôl,
Yn gafael yn fy mreichiau; ond dyna Siôn yn mynd,
A minnau ar yr heol fy hunan, heb un ffrind.
Ar hyn mi glywais ganu, a thelyn fwyn ei thant
Yn sôn am froydd tirion Paradwys Wen y Plant;
Ac am ei llethrau tawel, ei dolydd glas a'i choed,
A'i chwrlid hardd o flodau na bu eu bath erioed;
Am adar pêr yn nythu ym mrigau'r cangau mawr,
A ffrwythau cochion addfed yn hongian hyd y llawr;
Am wenyn aur ei gerddi a brithyll chwim ei lli,
A'r meirch a'u carnau arian ar ei heolydd hi.
Fy nghalon o lawenydd ddychlamai dan fy mron
Wrth wrando'r delyn seinber yn sôn am degwch hon—
Y Wlad tu hwnt i'r mynydd! Ac, O! mor wyn fy myd
Pe gallwn rywfodd gyrraedd un o'i chilfachau clyd!
Y Wlad tu hwnt i'r mynydd, a'i llwyni byth yn wyrdd,
Bro'r Tylwyth Teg a'r Cewri a Rhyfeddodâu fyrdd:
Lle'r oedd teganau ddigon a gwisgoedd o bob lliw,
A phawb o'i mewn yn llawen heb neb o dan ei friw;
Lle rhoddid synnwyr eto i Siôn, fy nghyfaill hoff,
A lle na byddwn innau byth mwy yn fachgen cloff.
Mi geisiais ddilyn camau y gêr a'r fantell fraith,
Ond Och! ni fedrwn redeg na cherdded llawer chwaith;
A gwelais fy nghyfeillion a'r gwr yn ymbellhau,