Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CASTELL CONWY

TEITHIAIS heibio i Gastell Conwy
Ym Mehefin, gyda'r wawr,
Ac mi welais rhwng y meini
Ryw ysmotiau cochion mawr,
A thafodau tân yn chwarae
Ar y mur ac ar y llawr,

"Gwaed y ddewrion," meddwn innau,
"Gwaed y gwŷr a gwympodd gynt";
Ac 'r oedd siffrwd eu baneri
Yno'n aros y gwynt,
A llef utgyrn hen ryfeloedd
Yn fy nilyn ar fy hynt.

"Fflamau," meddwn, "fflamau'r goelcerth
A gyneuwyd ddyddiau fu,
Ac yn para i olau eto
Er i Angau oeri'r llu
A'u cyneuodd"; ac mi glyw-wn
Glecian rhwng y trawstiau du.