Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A dynion â chŷn ac â morthwyl
Yn dringo'r ysgolion tal,
Gan ddilyn ei drywydd drwy'r trawstiau;
Ond ofer yw ceisio ei ddal,

Ei drywydd a gylcha'r cyfanfyd;
A phan êl hwnnw ar chwâl,
Yn lludw y Seren olaf
Y delir y pryf yn ei wâl.