Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y FRONFRAITH

YN fachgen bochgoch llon,
Â'm 'sgrepan ar fy nghefn,
Ac yn fy niriaid law
Y garreg greulon lefn;
Anelais honno gyda nerth,
A lleddais gantor mwyn y berth.

Yn fachgen llwyd ei wedd,
Penliniais yno'n brudd,
Euogrwydd dan fy mron
A'm dagrau ar fy ngrudd;
Ond ni ddaeth gweddi'r bachgen ffôl
Â'r cantor mwyn i'r berth yn ôl.