Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HAWLIAU

Mi welais ŵr—llechwrus ŵr—
Un min y nos, ar ddistaw droed,
Yn gosod creulon fagl ddur
I ddal diniwed deulu'r coed;
Haerai y gŵr ei hawl a'i reddf
Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf.

Mi welais ŵr—truenus ŵr—
O flaen y llys ar wŷs ei well,
A'r Ustus balch â sarrug drem
Yn sôn am ddirwy, cosb a chell;
Dadleuai'r gŵr ei hawl a'i reddf,
Pwysleisiai'r Ustus hawliau'r ddeddf.

Mi welais yn y fagl ddur
Greadur bach a'i wddf yn dynn,
A'i ffroenau'n wlyb gan ddafnau gwaed,
Ac yn ei lygaid olwg syn;
Dadleuai yntau yno'n lleddf
Ei hawl i fyw yn ôl ei reddf.