Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yng ngolau'r lloer, mae llwynog coch
Yn llechu yn ei ffau,
A'r tylwyth teg sy'n cysgu'n drwm
O dan eu pebyll brau—
'Rwyf innau'n brudd, a'm bron yn oer
O ofn y drin, yng ngolau'r lloer.

Yng ngolau'r lloer mae bedd yn Ffrainc,
Ac arno groes o bren—
Bydd bedd yng Nghymru cyn bo hir,
A'm henw uwch ei ben.
A thynged dau—ar garreg oer
Ddarllenir mwy—yng ngolau'r lloer.