Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond gwynfyd Huws, y Grosar,
Oedd gwrando'r bregeth hir;
Ni welodd Huws ryfeddod
Mewn maes na choedlan ir;
Rhwng meinciau Capel Bethel
A chowntar Siop y Groes
Y cafodd ei ddiddanwch
A'i nefoedd drwy ei oes.

Bu'r ddau yn dadlau'n fynych
Dros hawliau'r chwith a'r dde—
Ond heddiw maent yn dawel
Ym mynwent oer y dre;
Yn aros awr y ddedfryd
Rhwng muriau'r carchar llaith,
Y tystion wedi'u galw,
A'r rheithwyr wrth eu gwaith.

Pwy wŷr beth fydd y ddedfryd
A rydd y rheithwyr call;
"Roedd beiau a rhinweddau
Yn eiddo'r naill a'r llall;
Ond weithian, mwyn fo'u cyntun
Ym mynwent drist y dre,
Y Bedol ar yr aswy:
A Bethel ar y dde.