Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ac weithiau pan fyddaf yn gysglyd a blin,
Caf fyned mewn breuddwyd yn ol i'r cantîn,
A chlywaf y chwerthin a'r miri a'r row,
Ac yna deffroaf yng nghegin y Plow.

“O drothwy fy mwthyn, ymhell dros y dŵr
Mi welaf yn aml ryw demel a thŵr,
A blin bererinion, ar derfyn y dydd,
Yn mynd dros y gorwel i Ddinas y Ffydd.

"Daw'r olaf orchymyn i minnau cyn hir,
A cherddaf fel milwr nes cyrraedd y tir;
A chaf gan fy Mrenin ryw lecyn, 'r wy'n siŵr,
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr."