Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth tyrfa fawr i ddilyn
Yr ornest awr y cychwyn—
A gwylio'r ddau a redai ras
o ddolydd glas y dyffryn.

Dros briffyrdd sych cargº
Dros gulffyrdd gwlyb a lleidiog,
Drwy'r llwch a'r dwr, y rhed y gŵr
A'r march fel dau adeiniog,

Drwy lawer pentref llonydd,
Lle saif yn yr heolydd,
Ar bwys eu ffyn, yr hen wŷr syn
A'u barfau gwyn aflonydd.

Dros lawer cors a mawnog
Y dwg y march ei farchog—
A Guto ar ei warthaf rydd
Ryw lam fel hydd hedegog

A'r dyrfa yn goriain,
A chŵn y fro yn ubain;
Mae'r bloeddio gwyllt fel terfysg cad
Trwy'r wlad yn diaspedain.