Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Fel milgwn ar y trywydd
Y dringant ochrau'r mynydd;
Dros fryn a phant, dros ffos a nant,
Cydredant gyda'i gilydd.
Dros briffyrdd sych, caregog,
Dros gulffyrdd gwlyb a lleidiog,
Drwy'r llwch a'r dŵr, y rhed y gŵr
A'r march fel dau adeiniog.
Ac wele, dacw'r gyrchfan
O faen y rhedwyr buan;
Mae Guto ar y blaen yn awr,
A'r dyrfa fawr yn syfrdan.
Nid oes ond canllath eto ..
Ond ugain . . decllath eto
A dacw'r march yn fawr ei dwrf
Bron wddf am wddf â Guto.
Ysbardun llym a fflangell
Sy'n brathu'r march fel picell—
Ni thycia ddim; mae Guto chwim
O'i flaen ar draws y llinell.