Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chyfaredd o bob math. Mae niwl yn gorchuddio pethau a gysylltir â galluoedd y tywyllwch. Mae meddyginiaeth, a chymysgedd o lawer o elfennau, wedi bod feallai yn offerynnau er drwg: a llawer o dywyllwch wedi bod ynglyn â phethau daionus, megys fferylliaeth, yn cael eu camddefnyddio, nes peri i lawer gashau daioni oblegid ei ddefnyddio er drwg. Ac i derfynu gyda phynciau dyrus na ellir yn foddhaol eu hegluro, cyfeirir ymhellach at Bera, yr hon oedd hysbys yn nyrys alluoedd y greddfau sy'n galluogi creaduriaid y deyrnas anifeilaidd i gyflawni eu pwrpas yn y sefyllfa y gosodwyd hwy ynddi gyda medrusrwydd mwy rhyfeddol na'r gallu enillir trwy brofiad a dysg. Mae personau tebyg i Bera, ac astudwyr natur, ac wedi cadw heb eu colli fwy o'r galluoedd greddfol na oddefir i'r cyffredin, wedi bod bob amser yn alluog a dylanwadoli effeithio ar y byd cymdeithasol fel pe byddent o rywogaeth wahanol i'w cymdeithion. Nid yw y dynion doethaf a'r mwyaf craff wedi gallu treiddio yn ddigon dwfn i alluoedd natur, heb son am y galluoedd uwch a briodolir i reswm a dirgelion enaid. Nid yw dyn eto wedi cael cyflawn oleuni i'r byd mewnol dyrys rhwng