Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoi un help i eraill i ddyfod i gasgliad boddhaol.

Gan fod yr Esgob heb brawf fod Bera, os hi oedd achos y dirgelwch, wedi ceisio niweidio, na pheryglu bywyd: nac ychwaith geisio un math o fudd o'r weithred ddieithr, casglodd yr Esgob mai un achos oedd ceisio helpu yr ymgyrch o Eryri trwy symud Ceris o warchodaeth ei ran o'r Ynys oedd dan ei ofal, ac felly gorfodi Caswallon i wanhau ei sefyllfa mewn lle a allasai ddyrysu ei brif amcan yn torri cysylltiad gwŷr Eryri a'r briffordd i'r Werddon. Ond gan i gynllun Bera fethu mewn mwy nag un cyfeiriad yr oedd yr ymgyrch fechan i Fon yn hollol annigonol i gyfarfod â gofynion mannau eraill.

"Dyna'r esboniad mwyaf rhesymol yn fy nhyb i," meddai'r Esgob, ac i ddiben Bera yn taflu drws Arllechwedd yn agored i ymosodiad ar Fon o gyfeiriad Conwy. Ond pa fodd y gwnaeth hynny, neu pa fodd y gallodd dy symud di o'r ffordd, nid oes gennyf eglurhad boddhaol i mi fy hun, heb son am argyhoeddi eraill."

"Oni elli di feddwl fod rhyw gysylltiad rhwng Bera â'r un Drwg?"

O, gallaf, mae gan dywysog llywodraeth yr awyr lawer o offerynnau yn ei law,