Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XX. Y MOEL

YMHA ystyr bynnag y mae i ni gymeryd hanes Mon gan yr hen awduron,-pa un ai fel hanes rhyddieithol heb addurn barddoniaeth yn amgylchynu mynegiad eglur o ffeithiau, ynte fel disgrifiad mabinogaidd, neu ddamhegol, mae yn ddigon dealladwy fod y dylanwad Brythonig wedi tywynnu yn foreu ar Fon-mor bell yn ôl fel nad oes ond ychydig iawn o sicrwydd hanes yn blethedig a'r addurn i'w gael mewn perthynas i'r goresgyniad, gwir neu dybiedig, olion yr hyn fel y tybir yw Cytiau'r Gwyddelod, a dylanwad y Gaelaeg ar flaguriad a thyfiant y Gymraeg. Os cymerir yr hanes megis mewn gwisg fabinogaidd, gan ystyried yr enwau Caradog a Chaswallon fel pe yn cynrychioli yr hen a'r newydd, gwelwn i amgylchiadau beri i Bran y Goidel, neu y Goidelig, fyned trosodd i'r Werddon, a gadael y ddau ddylanwad yn gydgyfrannog, hyd nes i Gaswallon ladd Caradog, a meddiannu yr holl ddylanwad yn yr ynys, a throi pob peth i agwedd Frythonig, fel