Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y môr yn ymgodi dros Gymru gyfan, gan adael yn unig dros ennyd bennau mynyddoedd Eryri a Meirionnydd heb eu gorchuddio.

Sut bynnag y bu, marw fu raid i Garadog, a theyrnasodd Caswallon yn ei le dros Fon i gyd. Fel llywydd doeth rhannodd yr ynys, fel y sylwyd, i ddosbarthiadau, gyda llysoedd ym mhob dosbarth, ac uchel lys yn Aberffraw.

I Lys Aberffraw y galwyd Ceris i roi cyfrif cyhoedd am ei absenoldeb o'i orsaf ar adeg o argyfwng pwysig. Yr oedd pob amheuaeth o'i deyrngarwch a'i fwriad heddychol, erbyn hyn, wedi diflannu, a phrofion amlwg wedi eu cael nad oedd a wnelai ef ddim â'r ymgyrch Goidelig o Eryri i Fon. Tynnwyd yn ôl y cyhoeddiad' a'r rhybudd ynglŷn â throsedd tybiedig Ceris, a dyfarnwyd ei fod yn ymadael â'r Llys heb ddim amheuaeth yn tywyllu ei gymeriad. Ond er iddo felly gael ei gyhoeddi yn ŵr rhydd, gyda phob hawl ddiamheuol i'w etifeddiaeth a'i holl eiddo, galwyd ef yn Foel bob amser gan fonedd yr ynys, ac hyd yn oed gan y Tywysog, yn ei ddull chwareus pan gyfarfyddai â'r hen forlywydd. Galwyd ei le o hynny allan yn Llwyn y Moel, yn lle Llwyn Ceris, ac