Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

felly glynodd yr enw Goedelig wrth yr etifeddiaeth hyd y ddeunawfed ganrif, pryd yr ail-adeiladwyd y Llwyn, ac y galwyd yr adeilad urddasol yn Blas Newydd, anheddle teulu â'i glod mor uchel â Thwr Marquis.

Ar ôl y goresgyniad Brythonig nid oedd angen am Wyliwr y Fenai fel o'r blaen, oblegid unwyd Mon a pharthau eraill â'r hyn oedd yn cydnabod Tywysog Gwynedd megis Prif. Nid ymadawodd y reddf forwrol o ysbryd Ceris, ond efe a ddefnyddiodd ei longau i bwrpas mwy heddychol na'r un ddilynid ganddo o'r blaen. Diweddodd ei oes hir a defnyddiol fel morlywydd a masnachydd: ymenwogodd hefyd a chynyddodd ei gyfoeth yn ddirfawr trwy gyfnewid nwyddau ar raddfa helaeth ym mhorthladdoedd y Werddon. Efe hefyd wnaeth Am-loch yn enwog fel porthladd o'r hwn yr allforid mwn a gloddid o grombil cyfoethog Mynydd Parys, perchennog mwy diweddar yr hwn oedd ddisgynnydd o Ceris, Llwyn y Moel. Ymffrostiai Ceris yn ei enw a ddisgynasai iddo mewn dull mor ryfedd. Nid oedd long harddach, nac yn tynnu mwy o sylw yma borthladd bynnag y galwai, na llestr Ceris Llwyn y Moel. Ar ben blaen