Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymeryd rhan flaenllaw yn adeiladu yr eglwysi hynny. Llanwyd Dona gan awydd mawr a difrifol i ail-adeiladu yr hen Gil oedd mor anwyl a chysegredig yng ngolwg ei mam grefyddol. Yr oedd y brofedigaeth fawr yr aethai Dona drwyddi mewn dull mor rhyfedd ac annisgrifiadwy, ac megis yn ddiarwybod iddi ei hun, wedi effeithio yn ddwys arni, ac wedi dyfnhau yr awydd ynddi oedd gyffredin mewn mannau eraill. Ei hoff bleser oedd myfyrio ar ei bwriad i adeiladu Cil (ni fynnai son am Lan, oblegid yr hen enw arferid gan ei mam) a'i holl ymddiddan bron oedd ynghylch y Cil newydd.

Dylid feallai cyfeirio yma at adfywiad a adnabyddir weithiau dan yr enw Adfywiad Meibion Caw. Nis gellir dilyn yr hanes gyda manyldra, ond trwy ymgydnabyddu ag enwau eglwysi ym Mon. Mae rhai yn gallu gwahaniaethu rhwng y ciliau Goidelig a'r llannau Brythonig: ond erbyn hyn y mae cil fel enw ar eglwys wedi ymadael o Fon, lle mae'r llannau yn y mwyafrif mawr yn enwau cyffredin.

Mewn cysylltiad ag adfywiad arall, ceir enwau Brythoniaid fuont gewri addysg yn yr ynys. Cyfeiriwyd eisoes at y Meudwy ymsefydlodd yn Ynys Lanach. Casglodd