Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyd-ddrychiol a'u cysylltodd yn ôl arfer a'r drefn Goidelig, heb rwysg nac arddangosiad, ond gweddi a bendith yn ddilynedig â datganiadau o ddymuniadau ac ewyllys da y gwyddfodolion. Y dydd canlynol oedd Ddydd Nadolig. Yn y Plygain cynhaliwyd gwasanaeth i groesawu yn grefyddol y Baban Iesu ar y dydd a gyfenwir fel ei ddydd genedigaeth yn Waredwr y byd.

Pan oedd y gwasanaeth ar fin terfynu ymddangosodd peth dybygid oedd gwmwl dudew o'r hwn yr arllwysodd trwm-wlaw a grynodd y muriau, yna fellten danbaid a wnaeth y nos am eiliad fel dydd, ac yna dwrf taran fel pe disgynasai y creigiau ger llaw i orchuddio y lle, ac yn ddilynol gorwynt a fygythiai fwrw y Gil yn bendramwnwgl dros y dibyn i'r dyfnder gerllaw. Ac yn fwy dychrynllyd na'r cyfan i gyd, clywid ysgrech annaearol a wnâi dwrf ofnadwy fel pe rhwygid y ffurfafen yn ddwy o'r entrych i'r gorwel: ac yna ddistawrwydd sydyn, ac megis ar foment ymddangosodd awyr las glir, a'r lleuad yn edrych fel pe buasai am ddiorseddu yr haul oddiar orsedd ei ogoniant,-mor ddisglair y gwenai yn y Ffurfafen.