Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar ôl i'r dymestl fyned heibio, ac i dawelwch deyrnasu, cododd yr Esgob ei ddwylaw a gwaeddodd,——"Y nefoedd a'n gwaredo o afaelion y Widdan a ymwelodd â Mon unwaith eto i ryw ddiben anesboniadwy i mi, os nad i'w bwrw fel Babilon i'r môr."

Wedi clywed hynny yr oedd amryw a adwaenent Bera yn barod i dystio fod rhywbeth yn yr ysgrech yn gwneyd iddynt feddwl am dani, er na fuasent yn dweyd dim oni bai i'r Esgob lefaru.

Yn y bore yr un dydd pan oedd rhyw bysgotwyr yn croesi y traeth, gwelsant bentwr mawr o wymon, ac wedi iddynt fyned yn agos, canfuant wyneb marw Bera y Widdan. Yr oedd wedi ei hamdoi yn hollol â gwisg oer lithrig o'r môr. Yr oedd yn hollol farw, gyda rhyw greiriau dieithr yn cael eu dal yn dynn yn ei llaw.

Pan gafwyd sicrwydd fod gyrfa aflonydd Bera wedi rhedeg i derfyniad, er mor ddychrynllyd ydoedd, taenodd rhyw esmwythdra cyffredinol dros y bröydd. Oherwydd yr oedd ei hymweliadau a'i harferion