Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I. CYFNOD NIWLOG

NID oes gyfnod mwy pwysig yn hanes Prydain na'r pedair canrif gyntaf a nodir yn gyffredin gyda'r llythyrennau A.D.; ond nid oes adeg fwy tywyll neu fwy anhawdd treiddio i'w helyntion, sef casglu a gosod mewn trefn ddealladwy ddefnyddiau cymysg yr hanes a ddisgrifia y gwasanaeth pwysig y cymerwyd rhan ynddo gan y Goidel, y Brython, a'r trefnydd hynod a osododd i lawr yn Ewrob sylfeini y gwareiddiad a adnabyddir fel y Rhufeinig.

Wrth i ni gyfeirio at ran neilltuol o'n gwlad, – Gogledd Cymru, er enghraifft, –